May not be the place for it, buuuuut time for a minority language nerd-out
Laufeysdóttir! Braf gweld may o gymru yn darllen y comic. Am rhyw rheswm ro ni'n sicr taw un o Gymru oeddet ti o'r sylwadau ar Disqus, ond doedd gen i ddim syniad pam ymddangos bod fy ngredd yn gywir eniwe a dwi'n falch am hynny ^_^ Yn anffodus, dwi'n amau y bysai y Cymry yn goresgyn yn y comic yma hefyd, er ein bod yn cwyno am yr oerni yn ddigon aml, anhebygol y bysai'n ein hamddiffyn rhag y bwystfilod Nawr, petasai glaw yn unrhyw gymorth yn eu herbyn…...
***apologies in advance for thread spamming***
ateb sydyn i Gwenno! Nes i hannar ddyfalu o enw chdi mai Cymraes wyt ti ond braf gael neges yn Gymraeg!!
Dw i'm yn siwr os ydw i'n cyfri fel un o Gymru, ddo... di geni a magu yn yr Almaen on wedi byw yng Ngwynedd am eitha dipyn. (dw i'n ôl yn yr Almaen ers sbelan rwan)
ynglyn â dyfodol y Cymry ma gen i'r syniad 'na bod yr awyrennau milwrol o Fali 'di bomio'r pontydd i Sir Fôn a dyna lle ma pawb yn byw yn y flwyddyn 90...